Cymdeithas Pen y graig

Yn sgil y gwaith cychwynol fe sefydlwyd Cymdeithas Pen y graig sydd wedi bod yn gyfrifol am weithgareddau’r Ganolfan megis arddangosfa Canolfan Hanes Uwchgwyrfai am Lwybr y Pererinion a’r digwyddiadau cymunedol. Y Gymdeithas sydd wedi cymeryd y cyfrifoldeb am y gwaith sydd wedi digwydd o dan nawdd y cynllun Gwyliau Cymraeg a Phecynnu’r Profiad gan Gyfeillion Llŷn a PEG Gwynedd.

NOD AC AMCANION CYMDEITHAS PEN Y GRAIG
Codi ymwybyddiaeth o werth ein treftadaeth/iaith a’r cyfrifoldeb sydd arnom i gyd i’w warchod.
Cyflwyno’r iaith a’r diwylliant Cymraeg i ymwelwyr a phobl leol.
Gwneir hyn ar y we a thrwy drefnu –
Gweithgareddau cymdeithasol Cymraeg.
Gweithgareddau arbennig gyda dysgwyr ar gyfer ymarfer yr iaith.
Gweithgareddau hanes lleol er mwyn creu ymdeimlad o berthyn o blith y gymdeithas gyfan.
Cydweithio i sefydlu Canolfan Pen y graig.