Drwy gymorth arbennigwyr mewn gwahanol feusydd mae defnydd newydd o dechnoleg wedi ei ddefnydio i gyflwyno hanes yr ardal ar gylchdaith ddigidol.
Mae’r Ganolfan yn cyflwyno gwybodaeth am gylchdeithiau digidol mewn ffurf pdfs ar draws Llŷn. Ar gael o’r ganolfan, neu ar lein- Crwydro.co.uk
Mae yma hefyd deithiau digidol gyda gwybodaeth ar gael trwy ffurff QR codes a tagiau NFC, neu ibeacons.
Dyma rhai engreifftiau or gwaith lleol yn Llŷn –Crwydro.co.uk
A dyma ni, yn dangos y ffordd ymlaen……eto!-
Nefyn – datblygu’r app Culture Beacon cyntaf –
dydd Mawrth, Medi 9, 2014
Oedd gwirfoddolwyr yn Nefyn gyda’r cyntaf yn y wlad i ddatblygu app yn darparu gwybodaeth am archaeoleg a hanes y dref, diolch i dechnoleg arloesol iBeacon. Mae app Nefyn wedi’i seilio ar y system a lansiwyd yn ddiweddar yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac yn cael ei ddarparu hefyd ar y system Culture Beacon a ddatblygwyd ar y cyd rhwng Casgliad y Werin a’r cwmni technoleg o ogledd Cymru, Locly.
Yn dilyn gweithdy lansio gyda Chasgliad y Werin a Locly ar 18 Awst, bydd y gwirfoddolwyr yn gweithio i ddatblygu gwybodaeth sydd ar gael yn barod ar ffurf taflenni, yn ogystal â chreu clipiau sain a fideo newydd. Penllanw hyn fydd app yn cynnig dealltwriaeth werthfawr o dreftadaeth Nefyn a’r cyffiniau.
Datblygwyd app Culture Beacon Casgliad y Werin er mwyn darparu un platfform ar draws Cymru all darparu cynnwys a phrofiadau diwylliannol lleol o safon i ddefnyddwyr smartphones a llechi. Drwy ddefnyddion technoleg iBeacon a GPS, mae’r app Culture Beacon yn gweithio’n ddidrafferth y tu mewn ac yn yr awyr agored, gyda’r potensial i gynnig cynnwys penodol i leoliad ac amser wedi’i deilwra i’r defnyddiwr.
Yn Nefyn, cefnogir y project gan nifer o fusnesau lleol, yn ogystal â chyfleusterau’r awdurdod lleol fydd yn darparu cyswllt di-wifr am ddim i alluogi defnyddwyr i lawrlwytho a storio deunydd ar eu ffonau. Gobeithiwn taw hwn fydd y project cyntaf o nifer fydd yn gweld cymunedau a busnesau lleol yn cydweithio i ddatblygu apps i annog mwy o ymwelwyr i ddysgu am y dreftadaeth leol a chyfrannu i’r economi leol.
post gan Casgliad y Werin