Ymgyrchu

Mae Canolfan dreftadaeth a Natur Llŷn yn cefnogi’r frwydr yn erbyn anghyfiawnder cymdeithasol, lle bynnag a bo.

Llain Fatw

Mae deiseb a gafodd ei sefydlu cyn y penwythnos yn cefnogi cadw Tai Llain Fatw ym Mhen Llŷn yn nwylo’r gymuned wedi denu bron i 1500 o enwau.

Cafodd tai Llain Fatw eu prynu yn 1788 am £40.00 gydag arian a adawyd yn ei ewyllys gan Richard Griffith, Pen yr Orsedd. Ers hynny mae’r tai wedi bod yn dai elusennol ac wedi cael eu rhentu gan bobl leol gyda Pherson y plwyf a dau o Wardeiniaid eglwys Llangwnnadl yn gyfrifol amdanynt fel ymddiriedolwyr yr elusen. Mae’r ddeiseb yn dweud. “Mae’r gymuned gyfan wedi syfrdanu fod y tai wedi cael eu rhoi ar werth ar y farchnad agored. Ein gobaith ni fel cymuned yw bod y tai yn cael eu tynnu oddi ar y farchnad ac yn cael eu trosglwyddo i ofal y gymuned er mwyn eu hadnewyddu a’u rhentu unwaith eto i bobl leol.”

llain-Fatw1

‘Buy one get one free’

Mae’r arwerthwr Beresford Adams yn disgrifio’r ddau fwthyn yn yr hysbyseb sy’n ymddangos yn Wales Online,  “it’s a cottage ‘buy one get one free’ scenario. So, you could be buying one for you and one for your parents to live next door in a once-in-a-lifetime all family move to this stunning area of Gwynedd, close to the coast at Porth Colmon that can be found at the end of the country lane.”

Gellir gweld y ddeiseb yma


Hawl i Fyw Adra: Argyfwng ailgartrefi yn peryglu dyfodol cymunedau, yn ôl cyngor tref

 4-5-2021

Mae Cyngor Tref Nefyn wedi anfon llythyr agored at y pleidiau gwleidyddol ar drothwy Etholiadau’r Senedd yn datgan pryder “nad oes ewyllys gan bleidiau gwleidyddol i sicrhau bod gan bobl leol ‘hawl i fyw adra’ yn eu bro.”

Mae’r llythyr yn datgan ei bod fel ardal yn wynebu argyfwng, fel mae’r llythyr yn nodi “Yn ddiweddar mae prisiau wedi saethu i fyny i grocbris. Nid yw’n anarferol i gael bwlch o £100,000 rhwng prisiau tai yn ein hardal a’r un math o dai mewn ardal arall o fewn y sir.”

A’r llythyr yn ei flaen, “Mae’r cynnydd mewn prisiau yn ormesol ac yn dadwreiddio trigolion lleol o’u cymunedau. -Mae’r cynnydd ym mhrisiau yn erydu’r Gymraeg mewn cymunedau.”

 

Mae’r Cyngor yn galw am reoli’r nifer o ailgartrefi, gyda’r canran o ailgartrefi yn cynyddu’n gyflym, yn ol y llythyr, “Mae’r sefyllfa wedi amlygu’r rheidrwydd i reoli a chyfyngu’r nifer o ail gartrefi a thai haf sydd mewn cymunedau yng nghefn gwlad. Hyd yma, mae ardal Cyngor Tref Nefyn gyda chanran uchel iawn o ail gartrefi (dros 30%) ac mae’r canran yn cynyddu’n gyflym iawn.”

nefyn

Blaenoriaethu

Mae’r llythyr yn rhybuddio y bydd y gymuned yn diflannu heb weithredu gan wleidyddion, “Ni fydd cymuned fyw yma’n y dyfodol agos oni bai bod gennym bleidiau sy’n benderfynol o gyflwyno deddfwriaeth egwyddorol i ddatrys yr argyfwng. Mae’n rhaid blaenoriaethu pobl sy’n ceisio prynu eu hunig gartref gyda’r bwriad i fyw ynddo yn llawn amser dros bobl sy’n prynu ail dŷ i fyw ynddo’n achlusurol. Mae angen datrys yr argyfwng ar frys.”

Mae’r llythyr yn cloi gyda chwestiwn i’r gwleidyddion ynghylch sut y byddant yn datrys yr argyfwng, “Mae adroddiad ‘Ail Gartrefi-Datblygu Polisiau’ eisoes wedi ei gomisiynu ac wedi darparu argymhellion i’w gweithredu. Rydym yn siomedig nad yw’r un blaid wedi ymrwymo i weithredu’r argymhellion. Hoffwn wybod be fyddwch chi yn ei wneud i ddatrys yr argyfwng pe baech chi mewn Llywodraeth. Edrychwn ymlaen at dderbyn ymateb gennych a gobeithiwn yn fawr y byddwch yn ymrwymo i ddatrys ein argyfwng ar frys.”