Cydweithio

Roedd y cais cynllunio’n cyfeirio at ddatblygu’r cynllun drwy godi ymwybyddiaeth o werth yr iaith, fel cyfrwng ein diwylliant a sail ein hanes a’r hyn sydd yn allweddol i gyflwyno ein treftadaeth yn gywir. Roedd hefyd yn cyfeirio at y camau cyntaf o greu rhwydwaith cyswllt rhwng y gymuned leol a phob corf perthnasol sydd wedi body n rhan allweddol o’r broses o godi ymwybyddiaeth. Mae’r gwaith cychwynnol yma wedi gofalu fod gwreiddiau’r fenter yn gadarn yn y gymuned ac mae datblygu’r rhwydwaith wedi rhoi cyfle i bawb sydd yn rhannu’r un gwerthoedd, gydweithio gyda’i gilydd i hybu twf yr iaith a’r diwylliant Cymraeg, tra ar yr un pryd ddiogelu a gwarchod y tirwedd gyda’i holl olygfeydd godidog a’r cyfoeth o fioamrywiaeth a geir yma yn Llŷn.

Mae’r rhwydwaith wedi arwain at gydweithio efo Cyfeillion Llŷn, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Cymdeithas Pen y graig, Cylch yr Iaith, cynghorau a chynhorwyr sir, tref a chymuned yr ardal, penllyn.com, Cymdeithas Archaeoleg a Hanes Llŷn, Cyngor Sir Gwynedd, Casgliad y Werin, Aqua Marketing, Argraff, Menter Fachwen a busnesau Llangwnnadl, AHNE Llŷn, Comisiwn Brenhinol, Partneriaeth Economaidd Gwynedd a mwy.

Er fod cyflwyno’r cynllun yn ehangach wedi arwain at gefnogaeth a chydweithio llwyddiannus y rhan amlaf y mae hefyd arwain at sefyllfa lle mae unigolion neu gyrff wedi cymeryd syniad ac wedyn ymdrechu i’w ddatblygu ei hunain, heb ddeall yr angen i ymgynghori, trafod na chydweithio. Canlyniad hyn ydi methiant llwyr i wireddu’r syniad yn effeithiol ac felly yn wastraff ar amser ymdrech ac arian. Y mae hefyd yn medru rhwystro datblygiad syniadau a chynlluniau, a all fod o werth mawr, rhag cael eu datblygu o gwbwl.

Er hyn yr ydym yn parhau i gredu fod cydweithio gwirioneddol rhwng y gymuned leol ar draws y sectorau mewn modd agored o dan drefn gyfansoddiadol, ddemocrataidd deg, yn hanfodol. Mae cyflwyno a datblygu syniadau o dan drefn fel hyn yn fwy tebygol o lwyddo. Am hyn yr ydym yn gwrthwynebu gweithredu mewn modd anghyfansoddiadol, anemocrataidd ac anheg.

Cyflwynwyd y cynllun yn ehangach ar sawl achlysur gan gynnwys i ymgynghoriad cychwynnol cais Partneriaeth Tirlun Llŷn, i arolwg iaith gan Cymunedau’n Gyntaf, i aelodau Cwlwm Diwylliant gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Phlas Glyn y Weddw. a.y.y.b.