Gweledigaeth

Llŷn

Sefydlu Canolfan Dreftadaeth a Natur yn Llangwnnadl i gyflwyno Llŷn fel un o gadarnleoedd y Gymraeg, lle mae hanes yr iaith a’r genedl yn rhan annatod o’r tirwedd a’r tirlun hardd.

Roedd y weledigaeth i sefydlu Canolfan Dreftadaeth a Natur ar safle Pen y graig yn Llangwnnadl yn ateb dau ddiben. ‘Roedd yn barhad i waith blynyddoedd o hyrwyddo a gwarchod yr iaith a’r diwylliant Cymraeg yn Llŷn. ‘Roedd hefyd yn cynnig defnydd o werth cymunedol teilwng i safle Pen y Graig lle mae’r hen ysgubor ddegwm, Capel a siop enwog wedi eu lleoli.

Gwaith, amcanion ac egwyddorion Cyfeillion Llŷn a sefydlwyd gan R.S Thomas a Gruffudd Parry yn 1985 oedd prif ysbrydoliaeth a sylfaen y syniad. O blith y dylanwadau eraill yr oedd gwaith Seimon Jones yn sefydlu gwefan Penllyn.com a sicrhau presenoldeb teilwng i Lŷn, ei hiaith, ei diwylliant, ei hanes a’i phobl ar y we fydeang ers 1998. Roedd sefydlu Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yng Nglynog hefyd yn gyfrannog yn ogystal a syniad Eleri Llewelyn Morrris a sefydlodd Cwlwm Diwylliant Llŷn. Dyma’r elfennau a ddaeth at ei gilydd yn sbardun i ysbrydoli’r weledigaeth o sefydlu Canolfan i hyrwyddo Llŷn fel ardal lle mae’r Gymraeg yn rhan annatod o brofiad pawb sydd yn byw ac yn ymweld a’r ardal.

Cydweithio

Sian Parri.


 

Cefnogaeth a chaniatad cynllunio.

Roedd sicrhau cefnogaeth a chydweithrediad y gymuned leol yn allweddol i sicrhau llwyddiant y fenter ac felly y cam cyntaf oedd ymgynhori’n lleol efo cymdogion, mudiadau, grwpiau, sefydliadau, unigolion a busnesau a chyrff perthnasol. Pan dderbyniodd y syniad gefnogaeth frwd o bob cwr aed ati wedyn i gyflwynwyd cais cynllunio i ddatblygu’r safle a gafodd gefnogaeth unfrydol a chanmoliaeth Cynghorwyr Cyngor Gwynedd yn 2008.1-Cynllun-bloc