Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith cychwynnol o sefydlu a threfnu gweithgareddau’r Ganolfan wedi digwydd oherwydd ymroddiad gwirfoddolwyr. Mewn cyfarfod arbennig o Gyfeillion Llyn gyda gwahoddedigion y penderfynwyd ceisio am nawdd gan Pecynnu’r Profiad i ddatblygu’r gwaith ymhellach. Cyflwynwyd cais i gronfa Pecynnu’r Profiad i hyrwyddo Llŷn fel un o gadarnleoedd y Gymraeg, lle mae hanes yr iaith a’r genedl yn rhan annatod o’r tirwedd a’r tirlun hardd ac sydd yn lle delfrydol i siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg ddŵad ar eu gwyliau.
Dyma gychwyn ar y gwaith o baratoi ar gyfer ymestyn croeso Cymraeg i ymwelwyr yr ardal, drwy wneud y Gymraeg yn fwy clywadwy a gweladwy gan hefyd godi ymwybyddiaeth y bobl leol o’r angen a’r gwerth mewn gwneud hyn.
Cymdeithas Pen y graig fu’n gyfrifol am gychwyn y gwaith yn Llangwnnadl fel cynllun peilot i gael ei weithredu’n ehangach wedyn. Cynhaliwyd cyfarfodydd ac ymgynghoriad cyhoeddus yn y Ganolfan, er mwyn blaenoriaethu cynlluniau. Drwy ymroddiad gwirfoddolwyr o’r gymuned llwyddwyd i gynnal gŵyl yn 2013 ac mae hanes yr ardal a’r iaith wedi ei gyflwyno’n ddwyieithog mewn pamffled, bwrdd gwybodaeth a gwefan sydd yn cynnwys map a thaith gerdded efo defnydd newydd o dechnoleg i drosglwyddo gwybodaeth. Yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus daeth i’r amlwg fod y mewnfudwyr wedi bathu’r enw ‘Honey Pot Lane” ar Lôn Cil Llidiart a phenderfynwyd gosod arwyddion Cymraeg ar y lonydd, sydd yn eu lle erbyn hyn, sef Lôn Cil Llidiart, Lôn Tŷ Bach, Lôn yr Eglwys a Lôn Borth. Mae mwyafrif y busnesau hefyd wedi gosod arwyddion Cymraeg neu ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn amlwg.
Y gwaith yma sydd wedi arwain at gydweithio pellach efo Cyngor Tref Nefyn, Casgliad y Werin a’r Comisiwn Brenhinol ar gynllun arloesol sydd eto yn cyfuno hen hanes a thechnoleg fodern.
Gwyliau Cymraeg
Enwaur Lonydd
Arwyddion Busnesau
Bwrdd Gwybodaeth
Pamffled
Gwefan Langwnnadl