{"id":104,"date":"2014-08-29T10:37:30","date_gmt":"2014-08-29T10:37:30","guid":{"rendered":"http:\/\/llyn.co.uk\/llyn\/?page_id=104"},"modified":"2014-09-01T06:18:14","modified_gmt":"2014-09-01T06:18:14","slug":"ein-partneriaid","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/llyn.co.uk\/llyn\/?page_id=104","title":{"rendered":"Cydweithio"},"content":{"rendered":"<p>Roedd y cais cynllunio\u2019n cyfeirio at ddatblygu\u2019r cynllun drwy godi ymwybyddiaeth o werth yr iaith, fel cyfrwng ein diwylliant a sail ein hanes a\u2019r hyn sydd yn allweddol i gyflwyno ein treftadaeth yn gywir. Roedd hefyd yn cyfeirio at y camau cyntaf o greu rhwydwaith cyswllt rhwng y gymuned leol a phob corf perthnasol sydd wedi body n rhan allweddol o\u2019r broses o godi ymwybyddiaeth. Mae\u2019r gwaith cychwynnol yma wedi gofalu fod gwreiddiau\u2019r fenter yn gadarn yn y gymuned ac mae datblygu\u2019r rhwydwaith wedi rhoi cyfle i bawb sydd yn rhannu\u2019r un gwerthoedd, gydweithio gyda&#8217;i gilydd i hybu twf yr iaith a\u2019r diwylliant Cymraeg, tra ar yr un pryd ddiogelu a gwarchod y tirwedd gyda\u2019i holl olygfeydd godidog a&#8217;r cyfoeth o fioamrywiaeth a geir yma yn Ll\u0177n.<\/p>\n<p>Mae\u2019r rhwydwaith wedi arwain at gydweithio efo Cyfeillion Ll\u0177n, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Cymdeithas Pen y graig, Cylch yr Iaith, cynghorau a chynhorwyr sir, tref a chymuned yr ardal, penllyn.com, Cymdeithas Archaeoleg a Hanes Ll\u0177n, Cyngor Sir Gwynedd, Casgliad y Werin,\u00a0Aqua Marketing, Argraff, Menter Fachwen a busnesau Llangwnnadl, AHNE Ll\u0177n, Comisiwn Brenhinol, Partneriaeth Economaidd Gwynedd a mwy.<\/p>\n<p>Er fod cyflwyno\u2019r cynllun yn ehangach wedi arwain at gefnogaeth a chydweithio llwyddiannus y rhan amlaf y mae hefyd arwain at sefyllfa lle mae unigolion neu gyrff wedi cymeryd syniad ac wedyn ymdrechu i\u2019w ddatblygu ei hunain, heb ddeall yr angen i ymgynghori, trafod na chydweithio. Canlyniad hyn ydi methiant llwyr i wireddu\u2019r syniad yn effeithiol ac felly yn wastraff ar amser ymdrech ac arian. Y mae hefyd yn medru rhwystro datblygiad syniadau a chynlluniau, a all fod o werth mawr, rhag cael eu datblygu o gwbwl.<\/p>\n<p>Er hyn yr ydym yn parhau i gredu fod cydweithio gwirioneddol rhwng y gymuned leol ar draws y sectorau mewn modd agored o dan drefn gyfansoddiadol, ddemocrataidd deg, yn hanfodol. Mae cyflwyno a datblygu syniadau o dan drefn fel hyn yn fwy tebygol o lwyddo. Am hyn yr ydym yn gwrthwynebu gweithredu mewn modd anghyfansoddiadol, anemocrataidd ac anheg.<\/p>\n<p>Cyflwynwyd y cynllun yn ehangach ar sawl achlysur gan gynnwys i ymgynghoriad cychwynnol cais Partneriaeth Tirlun Ll\u0177n, i arolwg iaith gan Cymunedau\u2019n Gyntaf, i aelodau Cwlwm Diwylliant gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Phlas Glyn y Weddw. a.y.y.b.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Roedd y cais cynllunio\u2019n cyfeirio at ddatblygu\u2019r cynllun drwy godi ymwybyddiaeth o werth yr iaith, fel cyfrwng ein diwylliant a sail ein hanes a\u2019r hyn sydd yn allweddol i gyflwyno ein treftadaeth yn gywir. Roedd hefyd yn cyfeirio at y camau cyntaf o greu rhwydwaith cyswllt rhwng y gymuned leol a phob corf perthnasol sydd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":232,"menu_order":2,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/llyn.co.uk\/llyn\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/104"}],"collection":[{"href":"http:\/\/llyn.co.uk\/llyn\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/llyn.co.uk\/llyn\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/llyn.co.uk\/llyn\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/llyn.co.uk\/llyn\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=104"}],"version-history":[{"count":8,"href":"http:\/\/llyn.co.uk\/llyn\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/104\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":287,"href":"http:\/\/llyn.co.uk\/llyn\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/104\/revisions\/287"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/llyn.co.uk\/llyn\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/232"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/llyn.co.uk\/llyn\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=104"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}